MR. ROBERT HUGHES, TRENTON, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Yn Trenton, Swydd Oneida. Tachwedd 7fed, 1853, yn ei 73 mlwydd o'i oedran, Mr. Robert Hughes, yr hwn a fu yn aelod ymdrechol gyda'r Bedyddwyr am tua deugain mlynedd.Yr oedd o ran ei enedigaeth o Llanbedrog, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.
Ymfudodd i'r wlad hon yn y flwyddyn 1797. Ymsefydlodd yn New York, a bu yno hyd y flwyddyn 1841, pryd y daeth i fyny i ardal Trenton.
Ei afiechyd oedd fath o anhwyldeb yn y cylla. Dyoddefodd gystudd am tua phedair wythnos, a bu farw mewn gobaith yn nhrugaredd y Duw a broffesodd am gynifer o flynyddoedd.
Claddwyd ef gerllaw Trenton; pregethwyd ar y pryd gan William Jones, Remsen.