MR. ELIAS JONES, FAIRHAVEN, RUTLAND COUNTY, VERMONT.
DIGWYDDIAD GALARUS YN FAIRHAVEN, VERMONT.
Fel yr oedd Elias Jones, (gynt o Goed-y-Park, Llandegai, swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru,) yn dilyn ei alwedigaeth, yn un o chwarelau llechi Mr. Allen, Fair Haven, ar yr 22ain o'r mis diweddaf, ymollyngodd darn o graig, yr hwn a'i llethodd i farwolaeth yn y fan. Ei oed, cyn agosed ag y gwyddis, oedd 37.Ar y 23ain ymgynnullodd yr holl Gymry, a llawer o rai ereill, yn nghyd, i hebrwng ei gorff i dy ei hir gartref. Pregethodd gweinidog y Cynnulleidfaolion yn Saesonaeg, ar yr achlysur, oddiar Salm xc. 5, 6, a chanodd y Cymry emynau Cymreig yn y capel ac ar lan y bedd. "Am hyny byddwch chwithau barod,"