MR. HUGH JONES, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Yn mhlwyf Steuben, Rhagfyr 31ain, 1853, Mr. Hugh Jones, yn 75 mlwydd a 5 mis oed.

Brodor ydoedd o Leyn, swydd Gaernarfon, ond yr oedd yn breswylydd a dinasydd yn America ers llawer o flynyddoedd.

Treuliodd rai o'r blynyddoedd cyntaf ar ôl ei ymfudiad yn ninas Philadelphia; yna ymfudodd i Stenben lle y treuliodd weddill ei oes. Bu yn byw dros amser maith yn ei anedd ger y Capel Ucha', Steuben. Wedi hyny ymfudodd i'r Sixty Acres lle y bu farw ei anwyl briod. Catharine Jones; ac yr oedd yn awr yn byw yu nhŷ ei frawd Robert Jones, Beudy'r Rhos, lle y gorphenodd ei ddyddiau.

Claddwyd ef yn monwent y Capel Ucha', lle yr oedd yn aelod eglwysig, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan y brodyr D. J. Williams, M. Roberts a R. Everett.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Chwefror 1854.