MR. JOHN A. JONES, TURIN, NEW YORK.

Mab Abraham a Jane Jones o fferm Penycaerau ym mhlwyf Aberdaron, wedi cael ei fedyddio yn Eglwys Llanfaelrhys ar 9/6/1822.

'Roedd fferm Penycaerau yn 22 erw ac yr oedd Abraham Jones yn cyflogi dau i weithio ar y fferm, ond gweithio fel gof oedd ei fab John Jones.

Yn 1843 priododd John Jones gyda Mary Williams a gellir gweld yng nghofnodion Eglwys Llanfaelrhys ar 12/8/1843 - priodas John Jones, Smith o Penycaerau, mab Abraham Jones, ffermwr a Mary Williams o Ty'n Llidiart merch Robert Williams.

Ar 21/1/ 1844 John a Mary Jones yn bedyddio eu mab Abraham Jones yn Eglwys Llanfaelrhys.

Yn 1851 y teulu yn ymfudo i America ac yn sefydlu yn Turin yn Swydd Lewis. John Jones yn canlyn ymlaen gyda'i grefft fel gof yno, ond bu farw yn wr ieuanc yn 1853.

Glyn Roberts ~ Tachwedd 2021.


MR. JOHN A. JONES, TURIN, NEW YORK.

Yn Turin, Mawrth 10fed, 1853, Mr. John A. Jones, yn 30 ml. a 9 mis a 5 diwrnod oed.

Mab ydoedd i Mr. Abraham a Jane Jones, Pen y Caerau, Aberdaron, Gogledd Cymru.

Ymfudodd ef a'i wraig a 4 o blant yn nghyda'i deulu yn nghyfraith ac amryw eraill o'u cyfeillion i'r wlad hon, tua blwyddyn a haner yn ôl. Collasant un o'u plant yn mhen ychydig ddyddiau ar ôl cyrhaedd i'r wlad newydd. Ei glefyd oedd Inflammafory Rheuimatism, yr hyn y byddai arferol o gael ei flino ganddo yn Nghymru, a throdd yn y diwedd yn ddarfodedigaeth.

Yr oedd wedi bod yn ddeiliad cymelliadau cryfion yn Nghymru ac yn America, ac yr oedd argraffiadau tra dwys ar ei feddwl am ei gyflwr ar ei wely angeu. Anogai ei briod i ymofyn crefydd mewn pryd. Bydded bendith yr Arglwydd yn dylyn yr amgylchiad galarus hwn. Pregethwyd yn y gladdedigaeth gan yr ysgrifenydd a'r Parch. Mr. Rogers (T. W.) oddiwrth Jer. 15: 9, ac Amos 4 : 12.

Claddwyd ef yn mynwent capel Nebo.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Ebrill 1853.