MRS. MARY JONES, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Yn Steuben, Gorphenaf lOfed, 1853, Mrs. Mary Jones, priod Mr. Hugh G. Jones. Gareg Fawr, yn 61 mlwydd oed. Ei chystudd oedd Erisypelas trwy yr holl gyfansoddiad, trwy yr hyn y cyfyngwyd hi i'w gwely dros amryw wythnosau. Yr oedd Mrs. Jones yn ferch i Mr. John a Catharine Williams, gynt o blwyf Berch, ger Pwllheli. Ymfudodd yn nheulu ei thad a'i mam i'r wlad hon yn y flwyddyn 1801, pan yn 9 mlwydd oed.Ymunodd mewn priodas â Mr. Hugh G. Jones tua 38 mlynedd yn ôl - bu iddynt 5 o blant, y rhai ydynt oll yn fyw i gydalaru gyda eu tad ar ôl mam dra thyner ac anwylaidd iddynt.
Claddwyd hi Gorphenaf lleg yn mynwent y Capel Ucha', Steuben, lle yr oadd yn aelod eglwysig ers amryw flynyddau, a phregethwyd ar yr achlysur i luaws mawr o berthynasau a thyrfa fawr o'n cenedl, gan R. Everett a M. Roberts.