MR. ROBERT JONES, HEOL PEARL EFROG NEWYDD.

Gorphenaf 14eg, 1853, ar ôl byr gystudd, yn 46 mlwydd oed, Mr. Robert Jones, "Cambrìan Cottage" 208 Heol Pearl, New-York.

Yr oedd yn enedigol o dref Caernarfon, Gogledd Cymru. Adnabu ysgrifenydd y llinellau hyn ef yn un o'r masnachwyr mwyaf blodeuog yn y dref uchod, ac yn un o'r crefyddwyr mwyaf selog; ond dygn siomedigaeth a'i gyrrodd o'i "Gymry anwyl," (ei eiriau ef ei hun,) i wladychu i'r wlad hon. Ychydig wythnosau yn ôl, mor brysur y gwelid ef yn darparu at gladdedigaeth un o'i gyd-drefwyr, yr hwn a gyfarfyddodd â'i farwolaeth yn bu'r ddysyfyd.

Yr oedd yn ddyn carnaidd dros ben, a gwnaeth lawer cymwynas i'w gydwladwyr. Am ei ffaeleddau, nis gwn; a phe gwyddwn, caent eu claddu erddof fi. Heddwch i'w lwch.

Gweinyddwyd ar achlysur ei gladdedigaeth gan y Br. Wm. Rowlands.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Awst 1853.