MR. ROBERT JONES. UTICA, NEW YORK.

Gorphenaf 4ydd 1853, yn Utice, Efrog Newydd, tua 29 mlwydd oed, MR. ROBERT JONES, gynt o'r Bryn Gwyn, Llanfor, ger y Bala, Meirionydd.

Ymfudodd i'r wlad hon tua 4 blynedd yn ôl, a thrwy ei ymddygiad gostyngedig a'i dymher addfwyn, ni bu yn hir yn ennill cyfeillion, pa rai oeddent yn hoffi yn fawr. Yr oedd ei rodiad yn hardd a gweddaidd; yr oedd yn wrandawr cyson ar yr efengyl, yn aelod selog o'r Ysgol Sabbothol, ond heb wneuthur proffes gyhoeddus o Grist a'i achos hyd yn nechrau y flwyddyn 1852, pryd yr ymunodd â'r T.C., (pa rai yn oedd yn arfer eu dilyn.)

Yr oedd ei ymddangosiad yn lled dawel, eto yn siriol; felly bu heb ddyfod i fawr o sylw; ond yr oedd ei ymddygiad dichlynaidd yn crfeu hoffder yn mhawb tuag ato.

Yn nechrau y gauaf diweddaf ymunodd mewn priodas ag Elizabeth, merch Mr. John Williams, Pen y Caerau, ger Remsen, sir Oneida, yr hon, credaf, oedd yn gymhorth iddo i ryngu bodd ei Dad nefol; ond nid oedd tymhor eu hundeb ond byr. Cymerwyd ef yn glaf Myhefin 24ain, o'r Frech Goch, yr hyn yn hytrach na thori allan ond i raddau bach, a weithredodd ar ei ranau tumewnol, nes iddo adfeilio. Y tro cyntaf yr aethyn iddei weled, yr oedd y gair hwnw ar ei feddwl, "Yr Arglwydd yw efe, gwnaed a fyddo da yn ei olwg," ond fel yr oedd yn nesau at lan yr afon; yr oedd yn fater rhyngddo a Duw yn dyfod yn fwy pwysig ar ei feddwl.

Dywedai un diwrnod ei fod yn gweled y drefn i gadw pechadur yn un addas a gogoneddus ryfeddol, ond ei fod yn teimlo ei hun yn wan iawn mewn ymddiried ac ymorphwysiad arni, ond yn y man daeth y pennill hwnw iddei feddwl i

"Dyma Geidwad i'r colledig," a.y.

Yn nglyn â hynyna, cafodd afael yn y gair hwnw, "Mi a gyfarfyddaf â thi yno," ac yn y fan hyn aeth ei feddwl i rye eangder nad all geiriau ei ddesgrifio, nes o'r diwedd yr oedd fel Paul, yn gallu dywedyd, "Mi a wn i bwy y credais."

Y nos cyn ei farwolaeth, yr oedd yn dyweyd wrthyf, mai lle cyfyng iawn oedd yn yr Iorddonen, ond ei fod yn gweled yn yr ochr draw "ddigrifwch yn dragywydd," yr hyn oedd yn tawelu y cwbl; ac felly aeth adref yn hyderus iawn.

Dranoeth arweiniwyd ei gorph i'r fynwent, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. David Lewis. Y Sabbath canlynol, traddodwyd pregeth gan y Parch. J. H. Hughes, oddiwrth Num. xxiii. 10. Aeth y weddw at ei rhieni, yn lled alarus, eto yn dawel, oblegid ei bod yn credu ei fod ef wedi "myned i lawenydd ei Arglwydd."
HENRY JONES. Utica.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Awst 1853.