MR. THOMAS JONES, BLUE MOUNDS, IOWA, WISCONSIN.

Medi 19eg, 1853, ger Blue Mounds, swydd Iowa, Wisconsin, yn 75 oed, Mr. Thomas Jones, gynt o'r Hlafodlas, Llanrug, swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Daethai i'r wlad hon bedair blynedd i Ebrill diweddaf, gyda ei ferch; arosasant yn nghymydogaeth Dodgeville am tua blwyddyn; wedi hyny symudasant i Blue Mounds, lle y terfynodd yr hen ŵr ei yrfa.

Ar ddydd ei angladd ymgynnullodd lluaws o'i gydgenedl yn nghyd, a hebryngwyd ei weddillion marwol i'r gladdfa berthynol i gapel y T. C, a gweinyddwyd ar yr achlysur gau y Parch. Richard Jones.

Dymunai arnom wneyd hysbysiad am ei farwolaeth drwy y wasg, a theg hefyd yw hysbysu ddarfod i'r hen frawd hwn ddangos gradd o ddifaterwch am foddion gras am beth amser wedi dyfod yma; ond yr oedd yn awr er ys amryw fisoedd yn llawn o awyddfryd am gyrchu iddynt bob amser ag y byddai ei iechyd yn caniatau. Yn ei ddyddiau olaf cofiai amryw adnodau a hymnau, megys, "A chariad tragywyddol y'th gerais," a.y. a hefyd, " Pererin wyf mewn anial dir, a.y."

Gobeithiwn fod yr hen bererin wedi diangc o fryniau y Mounds i fryniau Caersalem. Tystia pawb a'i hadwaenent yn yr Hen Wlad, ei fod yn un o'r hen frodyr gwychaf ei deimladau, a dysgleiriaf ei gymeriad crefyddol yn ardaloedd poblog Arfon. Y mae mab iddo o'r enw John, yn rhywle yn chwareli Pennsylfania, ac os yw yn dymuno gwybod rhywbeth yn fanylach o berthynas i'w ddiweddar dad, ymofyned â'r ysgrifenydd.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Tachwedd 1853.