MRS. ELINOR MORRIS, NEW TRIPOLI, LEHIGH COUNTY, PENNSYLVANIA.

Myhefin 16eg, 1853, gerllaw New Tripoli, sir Lehigh, Pennsylvania., Mrs. Elinor Morris, priod William T. Morris, yn 34 mlwydd oed, gau adael priod a thri o blant i alaru ar ei hol.

Y dydd Llun canlynol, hebryngwyd ei rhan farwol i'r fynwent Ellmynaidd yn New Tripoli. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. Thomas Roberts Lehigh.

Y noswaith flaenorol pregethodd oddiwrth Ps. xvii. 15. Dranoeth, wrth y tŷ, darllenwyd, canwyd, a gweddîwyd; a chanwyd ar hyd y ffordd i'r capel. Wedi rhoddi ei chorff i lawr yn y bedd, a gwneyd ychydig sylwadau ar yr amgylchiad, a chanu pennill, awd i'r capel, a thraddodwyd pregeth gan yr un, oddiwrth Dat. xiv. 13, i dyrfa luosog o Gymry ac Ellmynwyr oeddent wedi ymgasglu i dalu y gymwynas olaf i'w rhan farwol.

Yr oedd Mrs. Morris yn enedigol o Gefn-y-coed, Llandegai, sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Ymfudodd hi a'i phriod i'r wlad hon yn Ebrill, 1850. Sefydlasant gyntaf yn Northampton, Pennsylvania : wedi hyny symudasant i'r lle a enwyd uchod. Yr oedd y drencedig yn aelod yn nghyfundeb y T. C. er ys blynyddau yn yr Hen Wlad, a pharhaodd, yn y wlad hon, hyd ei diwedd.

Yr oedd yn hynod am ddarllen, ac yn yr wythnosau diweddaf y bu fyw, heblaw y Beibl, darllenodd lawer ar yr "Ymofynydd Pryderus," "Galwad i'r Anuychweledig," gwaith Baxter, a Thraethawd Dr. Owen ar waith yr Ysbryd Glan.

Yr oedd yu briod ffyddlon, yn fam ofalus a serchog, yn gymydosres heddychlawn, ac yn Gristion didwyll. A thad yr amddifaid a barnwr y gweddwon a ofalo am y teulu galarus.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Awst 1853.