MR. JOHN J. JONES, CEFN Y GAER.
BU FARW 10fed o Ragfyr 1839, yn mhlwyf Remsen, yn 52 ml. oed, Mr. John J. Jones, (Cefn-y-gaer.)Aethai y trangcedig ychydig ddyddiau cyn hyny, i gynnorthwyo cymydog i'r coed, ac wrth drafod y cyffion dygwyddodd iddo dori ei goes.
Symudwyd ef adref yn ddioed, a galwyd ato feddyg deallus. Barnwyd ei fod yn gwellhau; ond yn ddisymmwth yn hwyr y dydd uchod, wedi bwyta ei swper yn siriol gyda'i deulu, gorphenodd ei yrfa dymhorol.
Er wylofain galarus ei wraig, nid ynghanodd air mewn atebiad. Mae yn debyg fod marw lygriad (mortification,) wedi cymeryd lle, ac felly hunodd yn nghwsg angeu heb obaith deffro hyd udganiad adgyfodawl y dydd olaf.
Ar y 12fed dygwyd ei ddaearawl dŷ o'r babell hon, yn ei ansawdd ddattodedig, i dŷ ei hir gartref, yn ymyl gweddillion ei dad a'i frawd, yn nghorfflán Capel Cerrig Steuben.
Cyn cychwyn o'r tŷ, pregethodd y Parch. Wm. G. Pierce, oddiar Gen. xxv. 8: ' Ac Abraham a drengodd, ac a fu farw mewn oed teg, yn hen ac yn gyflawn o ddyddiau; ac efe a gasglwyd at ei bobl.
Yr oedd Mr. Jones yn aelod cymeradwy ac hoff iawn o Eglwys y Trefnyddion Calfinaidd yn Mhen-y-graig, a phawb yn coleddu barn dyner am ei gyflwr.
Fel cymydog yr oedd yn hynod o garedig a chymmwynasgar, y mae yr holl ardal yn barod i lefain yn ngeiriau y bardd — 'Ow! farw gwr a fawr gerid.'
Yr oedd yn dderbyniwr cysson o'r' Cyfaill' teilwng er ei ddechreuad. Gadawodd wraig serchus i alaru ei cholled, mewn amddifadrwydd ac unigolrwydd nid cyffredin.
Hyderwn y bydd iddi brofi yr Arglwydd yn Briod i'w chysuro, ac yn Farnwr i'w hamddiffyn tra y parhao ei mordaith yn y byd tymhestlog hwn.