MRS. JANE OWENS, MARCY, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Mawrth 7fed, 1853, yn Marcy, swydd Oneida, ar ôl wythnos o gystudd chwerw iawn, typhus fever. Mrs Jane Owens, priod Mr. Owen Owens, yn 36 mlwydd oed.Gadawodd ei phriod a 7 o blant yn dra galarus ar ei hôl. Yr oedd Mrs. Owens yn aelod gyda'r Annibynwyr yn Bethaina, ac y mae genym sail i gredu fod marw yn elw iddi, er ei fod yn golled i'r eglwys ar y ddaear ac yn golled anadferadwy i'w theulu; a'n dymuniad yw i'r gŵr a ddywedodd, "Gad dy amddifaid a mi a'u cadwaf hwynt yn fyw," ofalu am y plant amddifaid hyn.
Yr oedd Mrs. Owens yn enedigol o Bwllheli neu yn agos i'r dref, ac yr oedd hi a'i theulu yn y wlad hon er's amryw flynyddau.
Claddwyd hi yn mynwent Bethania a phregethwyd ar yr achlysur galarus gan W. D. W. oddiwrth Mal. 3: 18.