MR. JOHN RICHARDS, LA CROSSE, WISCONSIN.
John Richards ydoedd fab i Owen ac Ellen Richards o blwyf Aberdaron, swydd Gaernarfon. Amaethwr cyfrifol oedd ei dad, ac yr oedd ef a"i briod yn proffesu crefydd ein Gwaredwr anwyl yn nghyfundeb parchus y Bedyddwyr, a byddent yn lletŷa pregethwyr yn achlysurol, pan yn ngwlad eu genedigaeth.Symudasaut fel teulu i'r America yn y flwyddyn 1827, a buont yn cyfaneddu yn ardaloedd Steuben a Remsen am 19 mlynedd, a rhai blynyddoedd mewn manau eraill yn nhalaeth New York.
Bu farw Mr. Owen Richards yn y flwyddyn 1844, a symudodd y gweddill o'r teulu i La Crosse, Wisconsin, yn y flwyddyn 1852.
John ydoedd yr hynaf o 4 o blant. Y mae dau ohonynt, sef mab a merch yn byw gyd a'i mam yn La Crosse, ac mae'r ferch arall yn byw ar Welsh Prairie yn y dalaelh hon. Y mae y plant i gyd yn proffesu crefydd, ac yn ymddwyn yn addas i'w proffes.
Gauwyd gwrthrych y cofiant byr hwu yn y flwyddyn 1814. Teimlodd effeithiau dwysion efengyl gras ar ei feddwl pan yn fachgen 9 mlwydd oed. Tystiai ar y pryd fod ei galon yn llosgi o gariad at Iesu Grist, fel nas gallai beidio ei ganmawl ef: tystiai hefyd os cafodd ei argyhoeddi erioed iddo gael ei argyhoeddi y pryd hyny. Ond er y cwbl aros ar dir oedi ac esgeuluso a chloffi rhwng dau feddwl a wnaeth, hyd y Diwygiad yn Steuben y y flwyddyn 1838, pryd y bedyddiwyd ef ar gyffes ei ffydd gan y Parch. Jesse Jones.
Os na ymddangosai John ar yr olwg gyntaf ei fod yn un cymdeithasgar, eto wrth ymarfer ag ef deuai hyny i'r golwg yn fwy eglur; ymddangosai ei fod yn un pur a ffyddlon i'w gyfaill. Ymddyddai am grefydd gyda difyrwch a blas. Yr oedd yn un haelionus, yn ôl ei allu ac uwchlaw ei allu, mewn cyfranu tuag at gynal a helaethu teyrnas yn Immanuel mawr yn y byd.
Ei afiechyd oedd y darfodedigaeth. Dyoddefodd gystudd maith mewn amynedd. Tystiai wrth yr ysgrifenydd, pan yn ymweled ag ef ar ei glaf wely, fod y berthynas ysbrydol oedd rhyngddo a'i anwyl Iesu yn eglur iddo. Er fod saethau angeu yn chwerwon iddo, eto "ei fwa ef a arhodd yn gryf trwy ddwylaw grymus Dduw Jacob." Soniai, pan heb fod yn mhell oddiwrth yr Iorddonen, am ei gyfaill Griffith Griffiths o dalaeth New York, yr hwn a'i cynghorai i lynu wrth orsedd gras - dywedai mai dyna y cynghor goreu ag a gafodd erioed.
Ar y 18fed o Dachwedd, 1853, yn ôl ei ddymuniad, ehedodd ei enaid dedwydd, fel yr ydym yn gobeithio, at ysbrydoedd y cyfiawn y rhai a berffeithiwyd. Pregethwyd yn y gladdedigaeth gan yr ysgrifenydd oddiar Matt. 24:44, a chan Elder Carr yn yr iaith Saesneg oddiar Salm 116 : 15, a chladdwyd ef yn mynwent La Crosse hyd oni wawria y dydd dedwydd pryd y deffry ac y cân preswylwyr y llwch.