MRS. ANN THOMAS, TRENTON, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Myhefin 13eg, 1853, yn y ddinas hon, yn nhy ei merch, lle y daethai ar ymweliad er mwyn ei hiechyd, Mrs. Ann Thomas, gwraig Mr. John E. Thomas, o blwyf Trenton, sir Oneida, Caerefrog Newydd.Bu yn gystuddiedig am rai blynyddoedd, a deng niwrnod yn unig y bu byw wedi cyrhaedd New-York. Yr oedd yn enedigol o sir Gaernarfon, wedi ymfudo i'r wlad hon er ys 35 mlynedd, ac yn 58 mlwydd oed pan y bu farw.
Bu yn aelod hardd a chyson o gyfundeb y Trefnyddion Calfinaidd er yn ieuangc. Dygwyd ei chorff adref, ac ar y l5fed, hebryngwyd ei gweddillion daearo! i'r gladdfa yn ymyl Capel y Nant, (T. C.,) Steuben, yn y sir uchod - y Brodyr E. Morris a W. Rowlands, (New-York,) yn gweinyddu, a'r olaf yn pregethu ar yr achlysur i dyrfa luosog iawn, y rhai a dystient eu parch i çoffadwriaeth y marw, a'u cydymdeimlad â'r byw.