MRS. JANE THOMAS, NANT Y GLYN, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Tachwedd. 13eg, 1853, yn y 65ain flwyddyn o'i hoedran, o'r Parlys Mud, fel y tybir, Mrs. Jane Thomas, Nant-y-glyn, Steuben, swydd Oneida, Caerefrog Newydd.

Merch ydoedd i William ac Elizabeth Prichard, Ty Howel, Aberdaron, swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru; ac yn y lle hwnw y ganwyd Mrs. Thomas. Yr oedd yn un o unarddeg o blant, a hi oedd yr henaf.

Ymfudodd i'r wlad hon yn y fiwyddyn 1819. Yn 1816, ymbriododd â John J. Thomas, Pwll-llwgwr, Aberdaron; a bu iddynt ddeg o blant, wyth o feibion a dwy o ferched. Mae dau o'r meibion wedi eu claddu, a'r chwech eraill a'r ddwy ferch eto yn fyw.

Ymunodd â chrefydd pan oddeutu 20 mlwydd oed, yn Mhen-y-caerau, Aberdaron, gyda'r Trefnyddion Calfinaidd; ac ar ól ei hymfudiad i'r wlad hon, ymunodd â'r un enwad, cynnulledig yn nghapel Pen-y-graig, plwyf Remsen, a pharhaodd gyda'r achos yn ffyddlon a pharchus hyd ei marwolaeth. Hebryngwyd ei chorff i fynwent Pen-y-graig; a chynnaiiwyd gwasanaeth crefyddol gan y Parch. Thomas Williams. Mae yn dda genyf allu dy-weyd ei bod yn un ragorol am ei Beibl, ac am ei chwilio, a'i ddysgu yn ei chof; a llawer o bennodau a adroddodd allan yn gyhoeddus.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Gorphenaf 1854.