MRS. ELIZABETH WILLIAMS, WELSH PRAIRIE, WISCONSIN.
Awst 3ydd, 1853, yn Welsh Prairie, Wisconsin, Mrs. Elizabeth Williams, priod Mr. John P. Williams, gynt o'r Braich Melyn, Plwyf Llanllechid, Arfon, yn 58 mlwydd oed.Ymfudasant i'r wlad hon tua 7 mlynedd yn ôl. Bu yn aelod hardd yn nghyfundeb y T.C. am 40 mlynedd. Nid oes dadl yn meddwl neb ai hadwaenai nad oedd marw yn elw iddi.
Cafodd ei phriod galarus golled nid bychan, a dau o blant eu hamddifadu o fam dirion. Tranoeth ymgynnullodd tyrfa luosog yn nghyd i weinyddu y gymwynas olaf i'w rhan farwol, ac i'w hebrwng i dŷ ei hir gartref; y Parch. William Jones yn pregethu ar yr achlysur, yn y capel, oddiar Deut. xxxii. 26. " 0 na baent ddoethion," a.y.