MRS. GWEN WILLIAMS. SLATE HILL, YORK COUNTY, PENNSYLVANIA.

Awst 24ain, 1853, yn Slate Hill, York County, Pennsylvania, yn y 38ain flwyddyn o'i hoedran, o Dwymyn yr Ymysgaroedd, GWEN, priod Mr. William A. Williams, merch i Mr. Arthur ac Elinor Pugh, gynt o'r Cwmerau, swydd Feirion, G. C., ond yn bresennol o Rock Hill, Wisconsin.

Ymfudodd y drengedig i'r wlad hon Mai, 1849; treuliodd tua thair blynedd yn yr ardal hon, lle y gwnaeth broffes gyflawn o Grist; a bu fyw hyd ei bedd yn addurn i'w phroffes. Yr oedd crefydd yn ei golwg yn "benaf peth" yn ei holl ymarweddiad crefyddol rhagorai, yn enwedig mewn ffyddlondeb a llarieidd-dra. Yn ystod ei chlefyd angeuol, rhoddodd brawf eglur ei bod yn meddu y gras o ymostyngiad; a dywedai megus Eli, "Yr Arglwydd yw efe, gwnaed a fyddo da yn ei olwg."

Teimlai gariad gwresog at Grist; galwai ef "y cyfaill a lyn yn well na brawd." Yn ei chystudd cafodd brofiad helaeth o'r tangnefedd yr hwn sydd uwchlaw pob deall. Pan yn ymchwydd y dwfr ymegniai a chanai, "Duw sydd noddfa," a'r anthem hono, "Mae gwledd yn Mynydd Seion." Pan ofynwyd iddi, a oedd arni ofn marw, dywedai, ar ôl ychydig ystyriaeth, "Wel, na, nid cymaint, am fy mod wedi rhoddi fy hyn i'r Arglwydd Iesu, ac y mae ef yn ffyddlon yn y dwfr a'r tân."

Yn ôl ei dymuniad, pregethodd yr ysgrifenydd, wrth y tŷ, i dorf alarus, oddiar Salm xxxvii. 37; ac yna hebryngwyd ei rhan farwol i dy ei hir gartref yn nghladdfa Slateville, mewn gwir ddiogel obaith am adgyfodiad ar ddelw y Brawd hynaf.
EDWARD J. HUGHES. Slate Hill.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Tachwedd 1853.