MR. HUGH WILLIAMS, APPLE RIVER, ILLINOIS.
Mawrth 8fed, 1853, yn nhŷ Mr. David Thomas, ar Apple River, lllinois, Mr. Hugh Williams, yn 27 mlwydd. oed. Daeth i'r wlad hon tua dwy flynedd yn ôl; treuliodd ran o'i amser yn Wisconsin, ac am y naw mis diweddaf yn nhŷ ei frawd.Mab ydoedd i Thomas ac Ann Williams, Bryntrefeilir, Llandwrog, Caernarfon. Ei glefyd oedd y darfodedigaeth, - dyoddefodd hir gystudd yn dawel ac amyneddgar; cafwyd cymhorth meddygon - ond methwyd llwyddo i symud y cystudd - angeu, brenin braw a'i cymerodd ymaith.
Nid yw ef ond wedi blaenu ychydig arnom ninau, - awn ar ei ôl yn fuan. Nid yw o un gwahaniaeth iddo ef pa mor fawr yr oedd yn cael ei garu a'i werthfawrogi, pwy oedd ei rieni nac i bwy yr oedd yn perthyn - crugyn o lwch yn unig sydd yn aros o hono ef yma, a'r beilchion hefyd fyddant yr un modd. Dy munir ar Olygyddion y Cyhoeddiadau yn Nghymru, er mwyn ei fam a'r perthynasau yno, i gofnodi yr hanesyn hwn.