MR. MORGAN WILLIAMS. LABARSVILLE, GER LEHIGH GAP, PENNSYLVANIA.

Hydref 15fed 1853, yn Labarsville, ger Lehigh Gap, Pennsylvania, o'r Typhus Fever, yn 31 mlwydd oed, Mr. Morgan Williams, gynt o Lanllechyd, Arfon, G. C.

Ymgynnullodd llawer iawn o Gymry, yn nghyfda'r brodorion, i'w hebrwng i dŷ ei hir gartref. Yr ydoedd yn ddyn a berchid yn fawr iawn gan bawb a'i hadwaenai, yn fwy felly na'r cyffredin.

Claddwyd ef yn mynwent y Cymru yn Slatington, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. Thos. H. Roberts. Bu ef farw tua 5 o'r gloch y boreu, ac erbyn hanner dydd yr un diwrnod, yr ydoedd ei wraig wedi rhoi genedigaeth i ferch.
R.R.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Tachwedd 1853.