MR. HUGH HUGHES, PITTSTON FERRY, PENNSYLVANIA.
At y gofres o ddamweiniau sydd yn cymeryd lle yn mhlith glowyr, rhaid ychwanegu un eto. Chwefror 22ain, 1854, fel yr oedd dyn o'r enw Hugh Hughes, tua 43 oed, wrth ei orchwyl fel arferol, ymollyngodd y gôlofn (pîllar) arno oedd rhwng ei frest a'r nesaf ato, cynwysiad yr hon a ddaeth arno yn nghyd a llawer yn ychwaneg, ac a'i cuddiodd yn y fan. Dechreuwyd yn, ddioed ac yn egniol i ymwneuthur tuag ato gan y gweithwyr yn gyffredinol, mor bell ag oedd lle yn caniatau, a pharhawyd felly hyd Mawrth yr 2il, pryd y cafwyd gafael yn ei weddillion - tuag 8 y prydnawn. Yr oedd ei gorph wedi ei anffurfio i raddau pell, a'r wreichionen fywiol wedi dianc i'w chartref hir ac anghyfnewidiol. Am hyny byddwn barod.Ganwyd y trengedig yn Tyddyn y Gaib, plwyf Llanbedr, Sir Gaernarfon. Treuliodd lawer o'i amser yn Sir Forganwg, yn Merthyr Tydfil a'i hamgylchoedd.
Ymfudodd i'r wlad hon tua 7 mlynedd yn ôl. Treuliodd ran o'i amser yn Pittston Ferry. Ymfudodd oddiyno i'r Old Mines, ac oddiyno i'r lle hwn, a chan nad oes perthynasau iddo yn y wlad a wyddis amdanynt penderfynwyd galw pwyllgor (committee) a phennodwyd tri i ofalu am ei eiddo a.y., i'w casglu yn nghyd a'u hanfon i'w berthynasau agosaf yn Nghymru. Os oes arian mewn llaw gan ryw un i'r ymadawedig, dymunir yn ostyngedig, er mwyn gwneuthur cyfiawnder a'i berthynasau eu cyfeirio at Mr. Walter Phillip, Buck Mountain, near Rockport, Carbon County, Pennsylvania. Hefyd os oedd rhywbeth yu ddyledus arno, ond cyfeirio at yr un person a chael dangosiad foddhaol o hyny, telir y cyfryw mor bell ag y byddo modd.
Claddwyd ef, Mawrth 3ydd, yn Mynweut yr Annibyuwyr yn Pittston Ferry, Pennsylvania.