MRS. MARY JENKINS, CINCINNATI.
Mawrth 22ain, 1854, yn Cincinnati, Mrs. Mary Jenkins, gwraig Mr. Thomas T. Jenkins. oddeuta 27 mlwydd oed.Merch ydoedd i Mr. Thomas Williams, plwyf Llandwrog, sir Gaernarfon. Derbyniwyd hi yn aelod eglwysig gan y Parch. J. H. Jones yn Cincinnati, a chafodd y fraint o fyw yn addas i'r efengyl hyd y bedd.
Unodd mewn priodas â Mr. Thomas T. Jenkins, Medi 4ydd, 1848. Ei chlefyd a achosodd ei marwolaeth oedd rhyw ddolur yn y pen yn peri cur a phoen mynych, yr hyn a drodd yn gydgasgliad ar yr ymenydd. Hi a ddyoddefodd ei chystudd yn dawel a boddlongar, a dywedai, "Mai amser anaddas oedd amser cystudd i ymofyn am grefydd, a'i bod hi yn ymorphwys ar yr Hwn yr oedd wedi rhoddi ei gofal iddo ers blynyddoedd. Rhoddodd amryw gynghorion gwerthfawr idd ei pherthynasau er eu hauog i ymdrechu byw yn grefyddol, a chyn ymadael gweddiai am gael ei gollwng yn rhydd fel y gallai ddianc o'i chystudd i le gwell, a cha'dd ei dymuniad, aeth adref i dŷ ei Thad nefol.
Gadawodd briod a dau o blant i alaru ar ei hol, yn nghyd a pherthynasau a chyfeillion lluosog. Gweinyddwyd yn y gladdedigaeth gan y Parch. T. Edwards, yr hwn hefyd a draddododd bregeth yn nghapel yr eglwys Gynulleidfaol mewn gysylltiad â'r amgylchiad.