MRS. ELINOR JONES, COLUMBUS, WISCONSIN.

Priod Mr. John R. Jones, pregethwr yn nghyfundeb yr Annibynwyr, Columbus, Wisconsin.

Ganwyd Mrs. Jones yn Cedryn, plwyf Llanbedr, swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Ymunodd mewn priodas â John R. Jones o'r un ardal, ac yn fuan wedyn ymuuodd âg achos Mab Duw, a buont byw gyda eu gilydd am ugain uilyuedd yn yr Hen Wlad, lle y ganwyd iddynt bump o blant, a bu un farw yno.

Yn y flwyddyn 1843 ymfudodd y teulu i'r wlad hon, ac ymsefydlasant yn mhlwyf Treuton, N. Y., ac ymunodd Mrs. Jones a'i phriod âg eglwys y Capel Uchaf yn Steuben danofal gweinidogaethol y Parch. Mr. Everett. Ar ôl byw am oddeutu 6 blynedd yn yr ardal uchod, symudasant drachefn i swydd Cattarangus, lle y mwynhaodd weinidogaeth hyfryd y Parch. James Griffiths. Yn nechreu yr haf diweddaf mudasant y drydedd waith i ardal Columbus, Wisconsin, lle ni fwynhaodd Mrs. Jones ond ychydig iechyd. Yr oedd bob amser o ran ei theimlad crefyddol yn un lled ddystaw, ac ni chafodd y cymeriad o absenu le ganddi, a bu yn ddiddolur i'r achos trwy ystod ei hoes grefyddol. Ei chlefyd diweddaf oedd effaith anwyd trwm, ac er dyfais meddygon, angau a gariodd y dydd. Gan mor drwm a phoenus oedd ei chlefyd olaf, ni chafodd fawr o hamdden i adrodd ei theimlad crefyddol, ond dywedai ei bod wedi llwyr ddarfod a'r byd hwn, a bod ofn angau wedi ei symud ymaith; ac ar fore dydd Mawrth, Awst 22ain, 1854, ehedodd yr ysbryd ymaith, yn y 59 flwyddyn o'i hoedran.

Dranoeth hebryngwyd ei gweddillion marwol i dŷ ei hir gartref, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. John Roberts, gweinidog y Trefnyddion Calfinaidd.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Tachwedd 1854.