MR. HOWEL POWEL, SWYDD SARATOGA, EFROG NEWYDD.
Yn Yspytty'r Ddinas, {City Hospitaì,) Caerefrog-Newydd, o'r darfodedigaeth, hen wr, o'r enw Howel Powel, yn ddiweddar o Waterford, Swydd Saratoga, C. N., ond gynt o Bont-Gadley, ger Pwllheli, yn Swydd Gaerynarfon, Cymru.Daeth i'r ddinas yma yn bwriadu dychwelyd i Gymru, lle yr oedd ganddo feddiannau lawer. Ar gais a chymeradwyaeth Meist. Wm. Grifiiths, a Lewis J. Lewis, Albany, paratoisid pob peth i'w gychwyn i'r fordaith erbyn Tachwedd laf, ond trwy ddygwyddiad rhyfedd y noson flaenorol, fel ydoedd mewn cyfeillach yn y Caernarfon Castle, yn ymddyddan ac ymholi am fab iddo yr hwn oedd fôrwr dywedai yr hen wr nad oedd wedi gweled ei fab er ys 21 mlynedd: iddo adael un o borthladdoedd Prydain, a myned ar led i wledydd tramor, ac yn ol pob tebygolrwydd ei fod wedi colli ei fywyd yn mhell o wlad ei enedigaeth pwy a ddygwyddai fod yn y cwmpeini ond y mab colledig!
Pan ddaethant i adnabod eu gilydd, wylent y y deigrau yn hidl.
Parodd hyn oediad yn mwriadau yr hen wr, a thra yn arofyn clafychodd o'r clefyd y bu farw, ar yr amseriad a nodwyd uchod.