MRS. ELIZABETH JONES, BRYNDYFFRYN, COLUMBUS, WISCONSIN.

Mai laf, 1854, yn Bryndyffryn, Columbus, Wisconsin, yn 29 mlwydd oed, Elizabeth, priod Mr. John W. Jones, saereoed.

Ganwyd hi yn Bryncroes, Clynog, Gogledd Cymru. Daeth i'r wlad hon gyda'i rhieni yn haf y flwyddyn 1846, a phriododd yn y Nadolig 1847.

Yr oedd yn gymydoges rydd-galon a chymwynasgar. Aeth at grefydd pan yn saith mlwydd oed, er nad oedd yr un o'i rhieni y pryd hyny yn grefyddol. Dywedai y pryd hyny. wrth ei mam, "Wel, mam, byddwch chwi farw; ni phery y byd yma yn hir, mae ârnaf fi ofn marw yn annuwiol."

Gadawodd grefydd am dymhor wedi hyny; a daeth yn ól er ys tua thair blynedd. Bu yn glaf am fisoedd, o'r Darfodedigaeth, pryd yr oedd yn dangos ei bod yn mwynhau llwer o gysuron crefyddol. Dywedai yn fynych, fod "Gorphwysfa eto yn ól i bobl Dduw." "Na alerwch ar fy ól i," meddai unwaith wrth ei mam, "yr wyf yn gweled Iesu Grist yn graig ddigon cadarn i bwyso arno." "Mae John," meddai dro arall (sef ei phriod), "yn son am adeiladu ty newydd; ond o'm rhan i, nid oes arnaf ei eisiau, mae genyf fi dy nid o waith llaw, tragywyddol yn y nefoedd." Anfonodd unwaith at yr eglwys i ddiolch iddi am ei gweddiau drosti, gan ystyried y dyddanwch a fwynheai yn ffrwyth hyny i raddau.

Claddwyd hi yn mynwent Bethel, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. David B. Williams.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mawrth 1855.