MRS. ELIZABETH JONES, FAIRHAVEN, VERMONT.

Yn Fairhaven, Vermont, Chwefror 7fed, 1854, Mrs. Elizabeth Jones, gynt o Benyrhafodlâs, Llanrug, ger Caernarfon. Gweddw ydoedd i Robert Jones, yr hwn a gladdwyd yu Llanrug ers llawer blwyddyn bellach.

Daeth yma yn nechreu y flwyddyn ddiweddaf ar y meddwl o gadw cartref cysurus i'w phlant, ond Duw a'i cymerodd ato ei hun. Bu yn aelod cysono eglwys Dduw dros 40 mlynedd.

Ei phlant ydynt wasgaredig - 4 yn America, 2 yn Newfoundland, 1 yn Lloegr, ac 1 yn Nghymru.

Gweinyddwyd yn y gladdedigaeth gan yr ysgrifenydd.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Mawrth 1854.