J. JONES, BRADY'S BEND, PENNSYLVANIA.
Chwefror 26ain, 1854, yn Brady's Bend, Pennsylvania, mewn canlyniad i Ennynfa yn yr Ymysgaroedd, yn ddwy flwydd a 108 o ddyddiau oed, mab i Robert J. ac M. A. Jones, gynt o Blas Llanfair, Penmaenmawr.Dranoeth ymgasglodd lluaws o Gymry i hebrwng y corff i dy ei hir gartref. Yr wyf yn dra diolchgar iddynt am eu caredigrwydd.
Gweinyddwyd a thraddodwyd pregeth angladdol gan y Parch. David Lewis, oddiar 1 Thes. iv. 14-18.
Iesu, i fyny o fedd - y deuai;
Trwy'r un Duw a'i rinwedd,
Y deuwn yn y diwedd,
O raian oer, yr un wedd.