MRS. JANE JONES, UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Yn Utica, Mawrth 2il, 1854, yn 76 mlwydd oed, Mrs. Jane Jones, gynt o swydd Gaernarfon.Ymfudodd i'r America tua'r flwyddyn 1800. Sefydlodd yn Philadelphia am rai blynyddoedd, lle yr ymunodd mewo priodas â John T. Jones, genedigol o swydd Gaernarfon. Yma hefyd ymunodd â Chrefydd Crist a bedyddiwyd hi gan y Parch. Richard Jones oedd yn byw y pryd hyny yn Philadelphia. Symudodd hi a'i theulu i ardaloedd Steuben, lle y treuliodd y gweddill o'i hamser, oddieithr ychydig fisoedd cyn ei marwolaeth y bu gyda ei mab yn Utica, lle y cwrddodd a'r amgylchiad yr hir ddysgwyliodd am dano i gael ei rhyddhau oddiwrth y gwaeledd a'r gwendid yr hwn oedd wedi ei achosi gan y rheumatism er's llawer o flynyddoedd.
Yr oedd yn hiraethu am fyned adref, eto nid yn anfoddlawn i aros amser Duw i alw am dani. Cwrddodd fel eraill â llawer o brofedigaethau y bywyd hwn mewn byd ac eglwys, eto bu yn ymdrechol yn eu gwyneb oll i wneud ei dyledswydd, a chynaliwyd hi gan Dduw yn ffyddlon yn ea gwahanol gysylltiadau hyd y diwedd, yr hwn y credwn ydoedd dangnefedd. Yr oedd yn amyneddgar wrth fyw, ac yn foddlawn a hyderus wrth farw.
Mawrth 4ydd hebryngwyd y corph i gladdfa y Bedyddwyr yn Steuben. Pregethwyd ar yr achlysur gan Wm. Jones, Remsen.