MR. JOHN JONES, SIXTY, STEUBEN, NEW YORK.
Medi 4ydd, 1854, yn ardal "Sixty," Steuben, Caerefrog Newydd, o'r Darfodedigaeth, yn 42 mlwydd oed, Mr. John Jones, gan adael gweddw a phedwar o blant.Ymfudai i'r wlad hon flwyddyn a haner yn ôl, o'r Glyn, Llanystumdwy, sir Gaernarfon.
Claddwyd ei weddillion ar y 6ed, yn nghlâddfa Pen-y-Caerau. Cyn cychwyn o'r ty, y Parch. E. Salisbury, ac wedi cyrhaedd y capel, y Parch. D. Williams, yn pregethu i dyrfa luosog o berthynasau ac eraill.