REV. WILLIAM JONES, ROARING CREEK, PENNSYLVANIA.
Tua'r lOfed o Awst, yn Roaring Creek, Pa., William J. Jones, yr hwn a íu yn weinidog gyda y T. C. yu Nghymru dros flynyddau lawer, a thrachefn gyda'r Cynulleidfawyr.Daeth i'r wlad hon o Penmorfa, Caernarfon, a bu yn pregethu mewn amryw fanau yn ddiweddaf yn Pottsville. Ond yr oedd wedi ei ddiarddel am feddwdod er's crynamser.
Ni chlywsom beth oedd sefyllfa ei feddwl yn ei ddyddiau diweddaf, pa un aoedd ei synwyrau wedi eu dyrysu ai peidio; ond yr hysbysiad a roddir yw (fel y mae yn fwyaf galarus dweyd) ìddo farw yn hunanleiddiad! O! 'r ddiod felldigedig! pa hyd y goddefir y fasnach ynddi? Cwympwyd cedyrn lawer ganddi — gobeittiiwn fod dydd ei chwymp hithau ar ddyfod trwy'r wlad a'r byd.