MRS. JANE KASHOW. HONOLULU, HAWAII.

Merch Evan Williams (1808-1870) a Mary Wynn Williams (1812-1854).

Roedd Jane Williams wedi priodi gyda gŵr o'r enw Israel Kashow yn California ar 6ed o Chwefror, 1851 ac yr oedd ganddynt ddau blentyn gyda'i gilydd, Israel a Jane Ann. Yn weddol fuan ar ôl iddynt briodi darganfyddwyd fod Israel Kashow yn briod eisioes ac fe fu cryn helynt gyda Mary ei wraig gyntaf yn dwyn achos cyfreithiol yn erbyn Israel.

Bu Jane farw yn Honolulu ar ynys Hawaii ar 12fed Rhagfyr 1854 yn 22 oed, ac fe gafodd ei chladdu ger Traeth Waikiki yn Hawaii.

Glyn Roberts ~ Tachwedd 2021.