MRS. ELIZABETH MORGANS, UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Yn ninas Utica, Ionawr 30ain, 1854, yn nhŷ Mr. Thos. Williams, o'r Darfodedigaeth, Mrs. Elizabeth Morgans, yn 38 mlwydd oed.Merch ydoedd i Griffith a Jane Griffiths, plwyf Rhiw, sir Gaernarfon. Bu farw ei rhieni pan oedd hi yn ieuanc.
Ymfudodd i'r wlad hon hefo ei thaid, Robert Arthur, yn y flwyddyn 1823. Bu gwedi hyny yn byw hefo ei modryb Sarah Hughes yn mhlwyf Steuben am amryw flynyddoedd.
Aeth i New York, ac ymunodd ag eglwys y Bedyddwyr; yna daeth drachefn yn ôl i Remsen, ac ymunodd ag eglwys yr Annibynwyr. Aeth drachefn i New York a phriododd Mr. Owen Morgans, a buont yn briod tua blwyddyn; bu ganddynt un plentyn; yna bu farw ei gŵr, ac yn mhen ychydig o wythnosau bu farw y plentyn hefyd, a gadawyd hi drachefn yn unig ac yn weddw.
Ar ôl marw ei phlentyn daeth drachefn i Utica yu nechreu'r gauaf 1851 a llythyr ganddi oddiwrth yr eglwys yn New York, ond ni roddodd ei llythyr i mewn i yr un eglwys mwyach, canys yn fuan ar ôl hyn cymerwyd hi yn glaf gan anwyd trwm iawn ac wedi hyny bu yn aros y rhan fwyaf o'r amser yn nhai ei brodyr yn Boonville a Floyd, hyd o fewn ychydig o wythnosau cyn ei marwolaeth.
Aethum i Utica i â hi yn ei salwch diweddaf. Pan aethum i'r ystafell, dywedodd, "Wel, wel, dyma fel'r ydwyf' fi," gan estyn ei llaw ataf. Gofynais, "Ai sal" iawn ydych chwi?" "Ie;" atebai, "sal iawn." Dywedais, nad oedd un o honom ond yn aros ar ei hol am ychydig, y gorfyddai i ni oll droedio yr un llwybr. Atebai, "Na feddyliwch fod arnaf ofn marw, canys 'rwyf yn hyderu fod fy heddwch rhyngwyf a Duw wedi ei wneud er's llawer blwyddyn, a byddaf yn aml yn meddwl y byddai yn dda genyf gael myned i orphwys, canys llawer o fy lluchio a gefais o don i don yn fy myr amser yma ar y ddaear, ond mae'r ddiweddaf yn agosau."
Claddwyd ei rhan farwol yn mynwent capel Penymynydd, Steuben, a phregethwyd ar yr achlysur gan y Parch. Robert Everett.