MR. WILLIAM PRICHARD, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

WILLIAM PRICHARD (Y Glyn), a native of Carnarvonshire, came from Wales to Philadelphia in 1800, and resided there and at Trenton, N. J., for about six years before he came to Steuben.

The first gathering or "Big Meeting," of the Welsh Congregational Association of New York ever held in these parts was in session in Capel Ucha' on the day that the family arrived here, in 1806.

Mr. Prichard married Elizabeth, daughter of William Williams, and their children were Ann, the first wife of Humphrey P. Jones, born in 1802; Elizabeth, born in 1804, married Owen Williams (Bryn Gola); Mary, who married Richard Davis; William, Jr., born June 26, 1808, died June 25, 1889, married Jane Williams, of Nefyn, Carnarvonshire, who died August 30, 1884, aged seventy-eight years; David, who married Mary, daughter of William I. Lewis, Sr.; Griffith, who married first, Ann, daughter of Matthew Williams, and second a widow Jones; Catherine, who mamed Thomas 0. Roberts; Richard, who married Eliza Howell; Gwen, who married John D. Griffiths; and John, who died at the age of seven years. Mr. Prichard died in March, 1854, aged seventy-five years.

A narrative history of Remsen, New York.


MR. WILLIAM PRICHARD, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Mawrth 13eg, yn dra disymwth, o'r parlys mud, (apoplexy), fel y tybir, tra yn gorphwys yn dawel ar ei wely ganol dydd, Mr. Wiilliam Prichard. Glyn, Steuben, yn ychydig dros 75 mlwydd oed. Nid yw yn ymddangos iddo gael un fynyd o gystadd, neu deimlad o gystudd, ond o'i iechyd arferol tra yn huno yn dawel ymollyngodd i hun faith angen, a'i ysbryd dedwydd fel y mae ein hyder yn ddiamheuol a esgynodd at y teulu lle nad oes neb yn dywedyd, Claf ydwyf.

Mab ydoedd i Richard ac Elizabeth Abraham, o'r Tŷ Newydd, Bryncroes; ganwyd ef yn mhlwyf Bryncroes, Lleyn. Caernarfon, Chwefror 23ain, 1779. Tri o'r brodyr, sef Thomas Abraham, William Prichard, a Griffith Prichard, a ymfudasant i'r wlad hon yn y flwyddyn 1800. Hwyliasant i Philadelphia.

Ymunodd William Prichard mewn priodas yn Philadelphia yn mis Awst canlynol, gydag Elizabeth Williams, yr hon oedd yn dyfod dros y môr gydag ef, ac a fu yn briod ffyddlon ac ymgeledd dirion ac anwylaidd iddo hyd angeu. Buont yn byw yn Philadelphia a Threnton, J. N., tua 5 mlynedd, ac ymfudasant i Steuben yn "mlwyddyn yr Eclipse Mawr" sef y flwyddyn y cynaliwyd Cymanfa gyntaf y Cymry yn Utica a Steuben ; a phrynasant dir yn Steuben, a galwasant y tyddyn ar yr enw " Glyn," lle y gorphenodd ei yrfa ddaearol.

Gadawodd ei weddw ac wyth o blant galarus a hiraethus ar ei ol, gyda nifer helaeth o wyrion ac orwyrion. Yr oedd yn ŵr tawel, tangnefeddus, yn dra llon a siriol ei agwedd bob amser, ya aelod o eglwys Gynulleidfaol Steuben er y flwyddyn 1838, ac yn ddiacon yn yr eglwys er's amryw flynyddau. Claddwyd ef yn mynwent y Capel Ucha', pryd y gweinyddwyd i dyrfa fawr gan y brodyr R. Everett, D. Williams, Wm. D. Williams a Morris Roberts.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Ebrill 1854.