MRS. ELEN RICHARDS, CATTARAUGUS, NEW YORK.

Ebrill 13eg, 1854, yn Sefydlfa Gymreig Cattaraugus, New York, yn y 73 mlwydd o'i hoedran, Mrs. Elen Richards, gweddw y diweddar William Richards.

Symudasant i'r America o Ynys Enlli, swydd Gaernaron, yn y flwyddyn 1818. Sefydlasant yn Utica, wedi hyny yn Steuben, ac yna yn Marcy, lle y bu farw ei gŵr; wedi hyny dychwelodd hi yn ôl i Steuben, lle y bu hyd o fewn dwy flynedd yn ôl, pan y symudodd gyda'i merch a'i theulu i Cattaraugus, lle y terfynodd ei gyrfa ddaearol.

Claddwyd hi ar ei dymuniad yn Marcy, gerllaw ei gŵr. Yr oedd yn aelod llafurus gyda'r Bedyddwyr ers llawer o flynyddoedd, a gobeithiwn ei bod yn gorphwys oddiwrth ei llafur.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Mehefin 1854.