MR. WILLIAM ROBERTS, RACINE, WISCONSIN.
Tachwedd 22ain 1854, yn 23 oed, Mr. William Roberts, genedigol o Lanllyfni, Gogledd Cymru. Bu farw ei dad a'i chwaer yn Racine tua 9 mlynedd yn ôl. Llongwr ydoedd, ac fel amryw o'i gyfoedion wedi bod yn fachgen gwyllt. Ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, a threuliai ef ymaith yn raddol.Yn y Gymanfa a gynaliwyd yma yr haf diweddaf, dechreuodd anesmwytho am ei gyflwr ger bron Duw, ond ni fynegodd air wrth neb am hyn. Wedi i mi ddeall ei fod yn gwaelu, aethum i edrych am dano, ac wrth ymddyddan ag ef am sefyllfa ei anfarwol enaid, daethym i ddeall ei fod yn teimlo. Gwelai ei hun yn bechadur mawr a bu am yspaid mewn ofnau, ac amheuon, ond wrth gyfeirio ei feddwl pryderus at addewidion Iesu Grist i bechaduriaid edifeiríol, torodd i oleuo ar ei feddwl, ac nid oedd foddlon i ymddyddan am ddim ond am drefn gras. Amlygodd ei ddymuniad am gael ei dderbyn i'r Gymdeithas eglwysig, a gwneuthur proff'es gyhoeddus o lesu Grist. Rhoddais ei gais ger bron yr eglwys, a chyd nnodd pawb iddo gael ei ddymuniad. Ýr oedd yn awr wedi methu dyfod i'r Capel, codai i'r ystafell.
Aeth amryw o honom ato a chadwasom gyfarfod bychan gyd ag ef, a chefais y fraint, dros eslwys GynulleidfaoÌ Racine, o roi deheulaw Cymdeithas iddo, am ein bod wedi cael ein llwyr foddloni, ei fod wedi rhoddi ei hun yn gyntaf i'r Arglwydd. Dywedai nad oedd am wella. Un diwrnod pan oeddwn wrth ei wely yn ei gyflwyno i'm Tad tyner, torai allan i ddiolch am drefn y nef i faddeu beiau. Dro arall adroddai lawer gwaith yr adnod ganlynol, "Atat ti Arglwydd y dyrchafaf fy enaid." Wedi hyn daeth amryw o'i cyfeillion (sef y morwyr) i edrych amdano. Dywedai un o honynt. "mae amryw o dy hen gyfeillion wedi dyfod i edrych am danat, pa un yw y goraf genyt?" Atebai yntau, "Yr ydych yn dda i gyd, ond mae genyf Gyfaill gwell nag un o ohonoch. "Daeth Goruchwyliwr Hospital Chicago i edrych amdano. Gofynai William iddo, "Pa fodd yr oeddynt yn claddu creadur tylawd?" Atebai yntau "y gallai y gwellai efe." "O na (meddai William.) ond nid yw o fawr bwys, gofala yr Arglwydd am danaf."
Y dydd dywedeiiig, heb fawr o gyfnewidiad, ebedodd y preswylydd anfarwol i fyd lle nad oes marwoldeb. Dranoeth ymgasglodd tyrfa luosog i hebrwng ei ran farwol i dir marwoldeb. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchedigion E. Evans, T. C. William, R. Jones, M. W., a'r ysgrifenydd. Rhoddodd ei gyfaill Owen Roberts, le beddrod yn nghyd a'i barotoi iddo i orwedd, am ddim. Cafodd ofalu am dano yn ei gystudd mewn tynerwch, a chafodd un o'r angladdau mwyaf parchus a lluosog a welais er pan ddaethym i Racine. Yr oeddwn wrth hebrwng ei gorph i'r gladdfa yn teimlo fy nghalon yn llawn o ddiolchgarwch i Gymry Racine am eu tynerwch at blentyn ymddifad; yr oerddwn yn cael eglurhad ar y dywediad hwnw, sef "Fod Duw yu well wrth blant amddifaid nag wrth eraill."