MRS. MARGARET THOMAS, DELTA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Chwefror 19eg, 1854, yn ardal Delta, swydd Oneida, New York, Mrs. Margaret Thomas, priod Mr. Griffith J. Thomas, yn agos i 40 mlwydd oed, gan adael priod mewn dwfn alar a theulu lluosog o 9 o blant, yr ieuangaf yn faban ieuanc iawn.

Yr oedd yn aelod o'r eglwys Gynulleidlfaol Gymreig ar Floyd Hill. Merch ydoedd i Mr. Richard ac Elinor Williams, gynt o'r Hendre Fawr, Llanaelhaiarn, swydd Gaernarfon.

Claddwyd hi yn mynwent y Capel Ucha', Steuben, a gweinyddwyd gan R. Everett.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Mawrth 1854.