MR. WILLIAM R. THOMAS, FLOYD, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Ebrill 27ain, 1854, yn Ffloyd, Caerefrog Newydd, o Glefyd yr Afu (Liver Complaint), yn 70 mlwydd oed, Mr. William R. Thomas, brawd i'r diweddar Mr. Robert Thomas, Steuben.Ymfudodd ef a'i deulu, yn cynnwys gwraig a naw o blant, o'r Garn, Dolbenmaen, swydd Gaernarfon, oddeutu deuddeng mlynedd yn ôl, ac ymsefydlasant yn yr ardai uchod ar eu dyfodiad i'r wlad.
Bu farw ei wraig ac un ferch ychydig flynyddau yn ôl; y mae eto wyth o blant ar ôl, yn amddifaid o dad na mam. Yr oedd yn ddyn a berchid yn fawr yn ei ardal, fel dyn cywir a gonest, yn wrandawr cyson iawn o'r efengyl, yn un o dalentau cryfion, yn ddarllenwr mawr, a.y. Cafodd alwad i roddi cyfrif o'i oruchwyliaeth; pa fodd yr ymdarawodd, nis gwyddom; ond hyn a wyddom, na chafodd ddim cam, Barnwr cyfiawn yw yr hwn y bydd raid i ni oll ymddangos ger ei fron.
Hebryngwyd ei ran farwol i gladdfa capel y Nant, Steuben; gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. Evan Morris. Bydded i'r amgylchiad hwn, yn nghyda'r rhai blaenorol yn y teulu hwn, gael eu bendithio gan Dduw i ddwyn yr wyth plentyn sydd ar ôl mewn galar i winllan Crist, nid i fod yn segur, yw dymuniad llawer.