MRS. SUSANNA THOMAS. REMSEN, CAEREFROG NEWYDD.

Gorphenaf 14eg, yn nhrefgordd Remsen, Caerefrog Newydd, yn 91 mlwydd oed, SUSANNA THOMAS, gweddw y diweddar Richard Thomas, gynt o'r Hendy, sir Gaernarfon, G. C.

Daeth i'r wlad hon yn haf y flwyddyn 1841, gyda nith iddi. Yr oedd yn un o "heddychol ffyddloniaid Israel." Yr oedd yn aelod grefyddol gyda'r Methodistiaid Calfinaidd er pan oedd yn 13 mlwydd oed, a chafodd y fraint trwy ei gyrfa hirfaith o lynu yn ddiddolur gydag achos Iesu Grist; a dilys yw iddi gael yr alwad hyfryd hono, "Da, wasanaethfereh dda a ffyddlawn; dos i mewn i ìawenydd dy Arglwydd."

Yr oedd ei chyneddfan wedi gwanhau cyn ei symud, fel nad oedd yn amgyffred am ddim, nag yn adnabod neb o'i pherthynasau agosaf. Gofynwyd iddi wrth ymweled â hi, a oedd hi yn nabod Iesu Grist?

"Ydwyf, yr wyf yn meddwl fy mod yn ei adnabod ef." "A ddymunech chwi fyned i fyw ato ef i'r nefoedd?" "Dymunwn."

Eelly, yr ydym yn hyderu, yr hunodd hi yn dawel yn yr Iesu, wedi bod yn ei wasanaeth am 78 o flynyddoedd.

Dydd Llun, yr 17eg, ymgynnullodd lluaws mawr o Gymry, a rhai Saeson i'w hebrwng i dŷ ei hir gartref, o dy ei merch, Lanra Jones.

Claddwyd hi yn nghladdfa Pen-y-graig; gweinyddwyd ar yr achlysur, yn y tŷ ac wrth y bedd, gan y Parch. Ebenezer Salisbury, a phregethodd yn y capel oddiar Mat. xxiv. 44.
W. G.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Hydref 1854.