MR. THOMAS W. THOMAS, DETROIT, MICHIGAN.

Chwefror 7fed, 1854, yn Detroit, Michigan, o'r Typhoid Fever, yn 30 mlwydd oed, Mr. Thomas W. Thomas.

Yr oedd ein brawd ymadawedig yn fab i William Thomas, Ty'n Llan, gerllaw Aberdaron, Gogledd Cymru. Bu yn trigfannu am rai blynyddoedd yn Birmingham, Lloegr, a mynych y coffeai am ei fugail ffyddlawn a'i "dad yn Nghrist." y Parch. E. Price.

Oddeutu dwy flynedd yn ôl symudodd i'r wlad hon; arhosodd am dymhor yn Rome, Caerefrog Newydd, ac oddiyno daeth yma, a rhoddodd ei ddyfodiad atom adgyfnerthiad i'r ychydig sydd yn ceisio cynnal achos Cymreig. Yr oedd ynddo rinweddau y buasai eglwys luosog yn teimlo colled ar el ôl; ond yr oedd colli un mor llafurus o'r ychydig sydd yma, yn golled fawr iawn, canys yr oedd yn hynod mewn ffyddlondeb a diwydrwydd; gweithio gyda'r achos oedd ei hyfrydwch. Yr oedd yn meddu ysbryd cyhoeddus, ni foddlonai ar fod yn yr eglwys fel cangen ddiffrwyth, neu yn dilyn o hir- bell, ond byddai bobamser ar y blaen, yn gwneyd ei ran; defnyddiai ei dalent, ni chuddiodd hi am na buasai yn fwy.

Ni wnaeth ei symudiad i'r wlad hon unrhyw effaith ar ei ffyddlondeb; ni hudwyd mo hono gan dwyll cyfoeth i esgeuluso ei rwymedigaethau crefyddol; ac y mae yn ffaith deilwng o sylw, na chollodd un cyfarfod hyd ei glefyd diweddaf. Yr oedd yn un o "heddychol fíyddloniaid Israel." Hynodrwydd arall ynddo oedd ei gysondeb; yr oedd yn ddyn cryno, "ei esgeiriau yn ogyhyd;" nid un mawr iawn mewn rhyw un peth, ac yn ddim mewn peth arall, ond yr oedd yn gydbwys; yr oedd ei enau a'i draed yn deall eu gilydd, cerddent yr un ffordd.

Yr oedd ffrwyth i gael arno bob amser; nid yn llawn sel boeth heddyw am wneyd y cwbl, ac erbyn yfory wedi rhewi i fyny na wnai ddim; a gwnai y cyfan yn ddirodres a didwrf. Nid oedd fel yr aber fechan yn rhedeg yn drystiog rhwng y ceryg, ac yn ebrwydd yn sychu; tebygai yn fwy i'r afon ddofn yn treiglo yn ddystaw. Ond er maint ei ffyddlondeb, y mae wedi ein gadael.

Yn ei farwolaeth collodd y Gymdeithas Ddirwestol aelod didwyll; yr Ysgol Sabbothol un o'r athrawon mwyaf llafurus; eglwys fechan Detroit weithiwr difefl; a'i weddw alarus briod gofalus a thyner.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Gorphenaf 1854.