CATHERINE WILLIAMS, FLOYD, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Rhagfyr 28ain, 1854, yn Floyd ar ôl dau ddiwrnod o gystudd poenus y Croup, yn 3 blwydd a 4 mis oed, Catherine, merch Edward a Chatherine Williams, (crydd), brodorion o Lanuwchllyn, gerllaw y Bala, swydd Feirionydd, Gogledd Cymru.Dranoeth ymgynnullodd torf o'r cymydogion i weinyddu y gymwynas olaf i weddillion y ferch fechan; cyflawnwyd y gwasanaeth crefyddol ar yr achlysur gan y Parch. J. V. Hughes, oddiwrth y geiriau, "Onid oes amser terfynedig i ddyn ar y ddaear?" Job vii. 1.