MR. WILLIAM RICHARDS, ABERDARON SIR GAERNARFON.

Medi 18fed, 1839, Yn mhlwyf Norway, Swydd Herkimer, C. N., yn 58 mlwydd oed, William Richards, genedigol o blwyf Aberdaron, Swydd Gaernarfon, Cymru. Cludwyd ei ran farwol i Utica, lle y'i rhoddwyd i orphwys yn y pridd hyd ganiad yr udgorn y dydd diweddaf. Gadawodd wraig a saith o blant, yn nghyda llawer o berthynasau a chyfeillion, i alaru ar ei ôì. Daethai i'r America o Ynys Enlli ers dwy-flynedd-ar-hugain yn ol. Bu y trangcedig yn perthyn i'r Bedyddwyr Cymreig Neillduol yn Utica amrai flynyddoedd. Cafodd ddwy flynedd a hanner o anhwyldeb trwm cyn marw, y rhan fwyaf o ba amser y bu yn cadw ei wely. Yr oedd yn dra lluniaidd yn ei fywyd, yn foesol yn ei ymarweddiad, yn heddychol yn ei gymydogaeth, ac yn barchus gan bawb a'i hadwaenai.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Chwefror 1840