MRS. FANNY WILLIAMS.
Ebrill 17eg, 1854, yn 27 mlwydd oed, Mrs. Fanny Williams, gwraig Richard Williams, a merch i Richard a Sydney Evans, diweddar o Nefyn. Yr oedd Richard Evans yn llywydd yr hen long o'r enw "Express" o'r lle hwnw. Unig blentyn yr hen bobl ydoedd hi. Gadawodd i alaru ar ei hol briod a thri o blant bychain, tad a mam oedranus.Cafodd hir gystodd a mawr nychdod. Yr oedd yn proffesu Crist, a bu farw a'i hymddiried yn gwbl ynddo. Goleuodd ar ei meddwl yn yr afon. Derbyniwyd hi i'r eglwys yn Nefyn gan y Parch. William Davies, a mawr y pleser a gafodd yn yr adgoffad o benillion, adnodau a dywediadau crefyddol yr amser yr oedd yn ienanc.
Claddwyd hi yn mynwent Ebenezer, Steuben. Gweinyddwyd gan y brodyr William Jones a M. Roberts.