MRS. GWEN WILLIAMS. FAIRHAVEN, RUTLAND COUNTY, VERMONT.
Mawrth 12fed, 1854, yn Fairhaven, Vermont, GWEN WILLIAMS, gwraig William J. Williams, gynt o Blaenau Ffestiniog, G. C.Daethant i'r wlad hon ddechreu yr had diweddaf. Ond er pan ddaethant yma ni fwynhaodd hi ond ychydig iawn o iechyd, ac ar ôl hir wythnosau o gystudd blin hi a hunodd yn dawel yn angeu, gan adael priod hoff a dau o fechgyn anwyl i alaru ar ei hol yn nghanol gwlad estronol.
Gweinyddwyd yn y claddedigaeth gan y Parch. Griffith Jones, Fairhaven.