SHON DAFYDD, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
John Davies. 1790 - 1855.Roedd John Davies yn enedigol o blwyf Llaniestyn.
Priododd gyda Elinor Jones o Langwnadl yn Eglwys Llangwnadl ar 17/5/1808. Ar ôl priodi buont yn byw yn Muriau a Morfa, Llangwnadl ac fel Sion Dafydd y Morfa y byddai yn cael ei adnabod yn ardal Llangwnadl. Roedd Sion Dafydd yn ddiacon yng nghapel Penygraig ac yn weithgar iawn gyda'r Ysgol Sabathol.
Yn 1827 ymfudodd Sion Dafydd gyda'i deulu, ar fwrdd y Brig Gomer, i'r America ac ar restr teithwyr y Gomer gellir gweld:-
John Davies. 40.
Eleanor Davies. 39.
Mary Davies. 18. bedyddio 24/6/1810.
John Davies. 16. bedyddio 24/2/1811.
David Jones. 6. bedyddio 1/10/1819.
Ebenezer Jones. 4. bedyddio 17/2/1823.
Yn America bu yn ffermio yn ardal Ninty-Six, ychydig i'r gogledd o Remsen. Roedd yn weithgar gydag achos y Trefnyddion Calfinaidd yn America, yn ddiacon yn yr Eglwys yn Ninty-Six ac fel "Sion Dafydd dduwiol" y byddai yn cael ei adnabod yn gyffredin yn y gymuned.
Yn ddiweddarach symydodd i fyw i Remsen ac yno y bu farw ar y 14eg Mehefin 1855 yn 65 oed. Yr oedd ei wraig Eleanor wedi marw ychydig o'i flaen ac y mae'r ddau wedi cael eu claddu ym mynwent Capel Penygraig yn Remsen.
Bu ei fab David J Davies farw yn 1883 ac mae ef wedi cael ei gladdu ym mynwent Capel Sixty.
Bu Ebenezer Davies farw yn 1891 ac mae ef wedi cael ei gladdu yn mynwent Capel Nant, Steuben.
Hanes yr achos crefyddol ym Mhenygraig. Gan Mr Griffith Roberts, Berth Aur. 1873. Archifdy Prifysgol Bangor BMSS 17334.
Glyn Roberts ~ Medi 2021.
SHON DAFYDD, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Mehefin 15fed, 1855, Yn nhy ei fab, yn Remsen, Caerefrog Newydd, mewn gwth o oedran, wedi "ymdrechu ymdrech deg," yr hen frawd duwiol a hoff, SHON DAFYDD, genedigol o Leyn, Gogledd Cymru.Amlygwyd parch y gymdogaeth iddo trwy hebrwng ei weddillion gan orymdaith fawr i gladdfa capel y T. C. yn Mhen y graig, y Brodyr Morris Roberts, Ebenezer Salisbury a W. Rowlands, yn gweinyddu.
Mae yn ddiau y carai llawer gael hanes helaethach am yrfa ddaearol yr hen bererin.