MISS. MARY EVANS, APPLE RIVER, ELIZABETH, JOe DAVIES COUNTY, ILLINOIS.

Ar Apple River, yn agos i dref Elizabeth, swydd Joe Davies, Illinois, o'r darfodedigaeth, yn 15 mlwydd a thua 9 mis oed, Mary, merch i Hugh Evans o'r lle uchod.

Brodor ydoedd y drancedig o Ddrws y Coed, swydd Gaernarfon. Ymfudodd i'r wlad hon gyda ei thad a'r teulu ers tua deng mlynedd yn ôl, a bu yn help a chysur iddo hyd ei marwolaeth.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Mai 1855.