MR. WILLIAM GRIFFITHS, COLUMBUS, DODGE COUNTY WISCONSIN.

Chwefror 14eg, ger Columbus, swydd Dodge, Wisconsin, wedi maith gystudd yn 62 mlwydd oed, Mr. William Griffiths. Daeth i'r wlad hon erys deng mlynedd yn ôl o Blas Llanwnda, swydd Gaernarfon, Cymru, ac ymsefydlodd gyda'i deulu lluosog yn y lle uchod. Cafodd lawer o gymhelliadau ef pan yn bymtheg oed i ymuno â chrefydd, a chydnabyddai mai hyny oedd ei ddyledswydd; ond yr oedd ef, fel llawer, yn dysgwyl rhywbeth mwy yn barhaus: ymgyndynu a wnaeth hyd yr haf diweddaf, pryd y penderfynodd ymuno â'r T. C. yn Salem, lle y cafodd dderbyniad.

Cwynai mai tywyll oedd hi ar ei feddwl yn aml; ond y byddai ambell i wawr yn tori ar ei enaid rhwng y cymylau, nes symud ei ofnau a'i amheuon i ffordd. Dywedai, ychydig cyn marw, nad oedd dim yn werth i bwyso arno am fywyd ond Crist a'i gyfiawnder.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Medi 1855.