MR. ROBERT HUGHES, NEW YORK MILLS, UTICA COUNTY, NEW YORK.
Ebrill 4ydd, 1855, yn New-York Mills, ger Utica, o'r Darfodedigaeth, yn 66 mlwydd oed, Mr. Robert Hughes. Genedigol ydoedd o Langybi, swydd Gaernarfon; o'r un teulu a'r Parchedigion Robert Roberts, Clynog; John Roberts, Llangwm; a Michael Roberts, Pwllheli; yr oedd yntau o wybodaeth eang a doniau ffraeth.Bu am lawer o flynyddoedd yn filwr yn y fyddin Brydeinig. Yr oedd o gôf nodedig, a byddai yn anhawdd cwrdd â neb yn deall duwinyddiaeth yn well.