MRS. CATHERINE HUGHES, WELSH PRAIRIE, COLUMBIA COUNTY, WISCONSIN.
Mawrth 24ain, 1855, yn Welsh Prairie, swydd Columbia, Wisconsin, tua 38 mlwydd oed, Mrs. Catherine Jones, priod Mr. John Jones, gynt o'r Hafod-lwyfog, Beddlgelert, swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru.Daethant'i'r wlad hon yn y flwyddyn 1847. Gadawodd briod galarus a phump o blant amddifaid i alaru ar ei hol; colled nad all neb ei dirnad ond a'i profodd. Gobeithiwn y cânt ymorphwys ar addewidion yr Hwn sydd yn "Dad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon." Cafodd ei dwyn i fyny o'i hieuengtid yn nghyfundeb y Trefyddion Calfinaidd, a pharhaodd felly hyd y diwedd (oddieithr ychydig amser y bu allan tua dwy flynedd-ar-bymtheg yn ôl).
Hyderwn ei bod wedi myned i "eglwys berffeithiach." Y dydd Mawrth canlynol i'w marwolaeth ymgasglodd lluaws o'r Cymry ynghyd i weinyddu y gymwynas olaf i'w llwch, ac i'w hebrwng i fynwes oer y ddaear.
Rhoddwyd ei rhan farwol i orwedd rhwng erchwynion oerion y "gwely pridd," lle y caiff dawel huno heb neb i'w dychrynu nac i'w haflonyddu, hyd nes y delo ei Phriod ar y cwmwl i'w galw allan yn anllygredig.