MR. HENRY W. JONES, MOUCH CHUNK, CARBON COUNTY, PENNSYLVANIA.
Mehefin 2ail, 1855yn Mouch Chuuk, Carbon County, Pennsylvania, yn 44 mlwydd oed; Henry W. Jones, yn dra sydyn o'r Colera; ehedodd y wreichíon anfarwol allan o'r tŷ o glai mewn un diwrnod o gystudd: daearwyd ei weddillion marwol yn nghladdfa y lle, pryd yr ymgasglodd tyrfa luosog o'i genedl ac eraill ar yr achlysur galarus.Mab ydoedd i Thomas ac Ann Jones, swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru. Er pan ymfudodd i'r wlad hon treiliodd y rhan fwyaf o'i amser yn Nesquehoning.
Ymunodd mewn cwlwm priodasol Hydref 31ain, 1844, efo Miss Sarah Palmer. Bu iddynt dri o blant, pa rai sydd yn bresenol yn cyd alaru a'u mam drallodus.
D. S. Mae dau frawd ac un chwaer i'r trancedig yn trigfanu mewn rhyw ran o dalaeth Wisconsin. Enw un o'r brodyr yw David Jones; nis gwyddom enw y llall na'i chwaer. Os bydd i'r llinellau hyn eu cyraedd hwy, dymuna y weddw yn daer arnynt anfon llythyr ati er ei chysuro mewn dyddiau trallod, - wedi ei gyfeirio fel y canlyn:— Mrs. Sarah Jones, Nesquehoning, Carbon County, Pennsylvania.