MRS. MARY JONES, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Hydref 22ain, 1855, yn Steuben, ar ôl maith gystudd, Mrs. Mary Jones, gweddw Richard Jones gynt o Eifionydd a hithau yn frodor o blwyf Aberdaron, Caernarfon, yn 77 mlwydd oed.

Yr oedd, fel y credym, yn meddu ar rym duwioldeb, ac yn mwynhau cysuron a chynaliaeth crefydd yn ei chystudd. Aelod ydoedd o eglwys y Bedyddwyr yn Steuben.

Pregethwyd yn y gladdedigaeth gan ei gweinidog, y Parch. E. Humphreys, oddiwrth Salm 89: 15, 16, - testyn o'i dewisiad ei hun yn ei bywyd.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Tachwedd 1855.