MRS. MARY JONES, WEST BRANCH, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Mawrth 28ain, 1855, yn agos i West Branch, swydd Oneida, Caerefrog Newydd, Mrs. Mary Jones, priod Mr. Owen Jones, yn 52 mlwyd oed, o Afiechyd yr Afu, yr hyn, er medrusrwydd meddygon, serch a dymuniadau perthynasau a chyfeillion, a'i cymerodd ymaith i fyd yr ysbrydoedd.

Ganwyd hi yn Aber, swydd Gaernarfon, Cymru, yn mis Mawrth, 1803. Merch ydoedd i Robert a Sarah Morris. Pan yn bymtheng mlwydd oed, symudodd i swydd Fon; ac yno, pan yn ugain oed, priododd gydag Owen Jones; a buont byw beth amser yn Arfon a pheth yn Môn, hyd y 5ed o Ebrill, 1858, pryd y cychwyuasant tuag America. Cyrhaeddasant Quebee Mai 12fed, a Rome yr 17eg. Sefydlasant yn Leyden, swydd Lewis, lle y trigasant hyd ddechreu Mawrth, pryd y symudasant i West Branch. Yr oedd wedi bod yn afiach yn Chwefror, ond gwellaodd; eithr yn mhen deuddydd wedi symud cymerwyd hi yn 'glaf' drachefn, ac ni wellaodd mwy.

Claddwyd hi wrth gapel y Quaker Hill ar y 30ain, pryd yr ymgasglodd tyrfa luosog i weini y gymwynas olaf i'w gweddiiiion marwol. Bu iddi hi a'i phriod chwech o blant, sef pedwar mab a dwy ferch, pa rai sydd yn awr yn alarus, gweddw ac amddifaid.

Bu y chwaer yn proffesu crefydd yn nghyfundeb y Trefnyddion Calfinaidd am 25ain o flynyddoedd; a gellir dyweyd mai byw yn dduwiol oedd ei byw yn y byd, ac felly y mae genym seiliau cryfion i gredu fod marw yn elw iddi. Yr oedd yn un wastad gyda chrefydd, nes oedd braidd yn ddiareb gan y byd ei bod yn rhy grefyddol; a'n gweddi yw, am i'r Arglwydd wneyd llawer yn gyffelyb iddi eto.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mai 1855.