WILLIAM JONES, HOLLAND PATENT, NEW YORK.
Ionawr 1Ofed, yn Holland Patent, Mr. William Jones, yn 84 mlwydd oed.Brodor ydoedd o sir Gaernarfon, G. C. Daeth i'r wlad hon tua'r flwyddyn 1800.
Treuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn ardaloedd Remsen a Steuben. Bu yn aros y deuddeng mlynedd olaf o'i oes yn Holland Patent. Ei anhwyldeb ydoedd y ddafaden wyllt (cancer) yn ei wefus isaf.
Bu yn aelod gyda'r Bedyddwyr am lawer o flynyddoedd. Tua dwy flynedd cyn ei farwolaeth, ymunodd a'r T. C, trwy nad oedd y Bedyddwyr Cymreig yn cynnal addoliad yn y lle.
Byddai bob amser yn hynod hoff o ymddyddan am botliau crefyddol; ac yr oedd ganddo wybodaeth lled gyflawn o'r Ysgrythyrau, ac yn neillduol fanwl, yn ol ei alluoedd a'i dalentau, yn egwyddorion y grefydd Gristionogol.
Nid oedd am groes-dynu nac ymddadleu â neb; ac os ymosodid arno gan rywun, byddai yn well ganddo ymadael â'r gyfeillach na gwneyd un gwrthwynebiad. Byddai am fod yn gyfaill i bawb, ac am gael pawb yn gyfaill iddo yntau. Dranoeth hebryngwyd ei gorff i gladdfa y lle, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Weinidog Bedyddwyr Saesonig y lle.